Mae Canolfan Soar (yn aml cyfeirir at Theatr Soar) yn gyfleuster cymunedol rhestredig Gradd II ym Merthyr Tudful, sy’n cynnwys theatr a chyfleusterau eraill. Roedd Capel Zoar yn adeilad rhestredig Gradd II, ac fe'i drawsnewidiwyd yn y 2000au.
Prif Weithredwr y Ganolfan yw Lis McClean a oedd yn un o'r rhai a symbylodd y fenter i droi'r hen capel yn ganolfan gyfoes Gymraeg.
Hanes
Cwblhawyd Capel Zoar ym mis Mawrth 1842 ac roedd yn un o gapeli'r Annibynwyr Cymraeg. Disodlodd strwythur cynharach o 1823 ar gost o £2,300. Daeth yr adeilad yn adeilad rhestredig Gradd II ar 22 Awst 1975.[1] Cyn iddo gau yn 2005, roedd wedi bod yn un o gapeli mwyaf Cymru. Bu Joseph Parry, cyfansoddwr Myfanwy, yn arwain y Gymanfa Ganu yno am flynyddoedd.[2]
Disgrifiad o'r adeilad
Adeiladwyd Capel Zoar ar ddau lawr, yn y traddodiad clasurol. Roedd y llawr uchaf yn oriel wythonglog, gyda seddau pren haenog serth ar ddau brif ochr, un pen a dwy adain fer; un rhwng bob ochr a'r diwedd.[3] Adeiladwyd yr adeilad hirsgwar o gerrig rwbel gyda'i fynedfeydd mewn ffryntiad pum bae cymesur ar yr ochr ogleddol. Mae bargod llydan ar y to llechi talcennog. Mae gan y ffenestri bwaog uchaf fariau gwydro Gothig haearnaidd sefydlog.[1]
Hanes cyfoes
Datblygodd cynlluniau ar gyfer creu Canolfan Soar ar seiliau ganolfan Gymraeg ym Merthyr a sefydlwyd yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Merthyr Tudful 1987 ym Mharc Cyfarthfa. Fe wna'th hi agor yn swyddogol yn 1991 ac ro'dd hi'n cael ei rhedeg gan dîm o wirfoddolwyr tan daeth y Fenter Iaith i fodolaeth yn 2003.
Dechreuodd Lis McClean weithio yn Soar fel Swyddog Datblygu gan bryderi am gyflwr yr adeilad. Roedd gan yr adeilad gysylltiad teuluol agos â Lis, gan bod ei mam yn un o sylfaenwyr y Cylch Meithrin yn y Ganolfan. Aeth hi i ati i gynllunio prosiect i adnewyddu'r Ganolfan Gymraeg a datblygodd y prosiect dros amser o brosiect £700,000 i ddatblygu festri Capel Soar i fod yn brosiect £1.4 miliwn er mwyn troi'r capel i fod yn theatr. Wedi 6 mlynedd o ymgyrchu a gweithio agorwyd Canolfan Soar ar ei newydd wedd yn swyddogol yn 2011.[4]
Canolfan Soar heddiw
Mae Canolfan Soar yn gyfleuster dwyieithog yng nghanol y dref. Mae'n cynnwys theatr, stiwdio ddawns, ystafelloedd ymarfer cerdd, caffi bar, siop lyfrau, ystafelloedd dysgu a chyfleusterau arddangos, cyfarfod a chynadledda hyblyg. Wrth ei gwraidd mae Theatr Soar, lleoliad clos ar gyfer y celfyddydau perfformio. Cynhaliodd ei awditoriwm 200 sedd ei berfformiad agoriadol ym mis Chwefror 2011. Fe wnaeth chwe blynedd o gynllunio, codi arian a datblygu drawsnewid Capel Zoar, a'r adeilad festri cyfagos.[5]
Gwerth economaidd
Yn 2015 amcangyfrifwyd bod Canolfan Soar yn dod â gwerth £1 miliwn i'r economi lleol. [6]
Siop Lyfrau'r Enfys - gwerthir llyfrau Cymraeg a Chymreig, gemwaith a nwyddau Cymreig a gweinir bwyd a diodydd poeth ac oer.
Caffi Soar - sy'n gweini bwyd a diodydd poeth ac oer a chynnyrch lleol fel Mêl Torfaen a chynnyrch Bragdy Twt Lol. Mae ar yr un safle agored â Siop yr Enfys.
Gwersi Cymraeg - ceir lleoliadau ar gyfer dysgu Cymraeg yn y Ganolfan.
Y Consortiwm Cymraeg - cydweithrediad newydd rhwng y cwmni theatr arobryn Theatr na nÓg, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Theatr Soar a Neuadd Les Ystradgynlais, gyda’r nod o gyd-gynnal theatr hygyrch o’r safon uchaf yn yr iaith Gymraeg.[8]
Criw Brwd - Cwmni theatr dwyieithog yng Nghaerdydd sydd â'i wreiddiau yn y cymoedd, sydd wedi ymarfer yn y Ganolfan a chyflwyno cynyrchiadau.[9]
Digwyddiadau
Mae'r Ganolfan, neu'r hyn a elwir yn Theatr Soar, wedi cynnal sawl digwyddiad ers ei sefydlu. Mae'r rhain yn cynnwys cyngherddau megis un gan yr ensemble gwerin Cymreig, Avanc yn 2021,[10] Cynhadledd YesCymru yn 2019.[11]
↑"Theatr Soar". Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful website. Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-14. Cyrchwyd 20 August 2012.