Safle NASA yn Ynys Merritt, Florida, Unol Daleithiau, yw Canolfan Ofod Kennedy (Saesneg: Kennedy Space Center). Mae wedi cael ei defnyddio ar gyfer lansio llongau gofod ers Rhagfyr 1968. Mae'r ganolfan yn denu twristiaid a cheir neuadd arddangosfa yno, gyda theithiau tywys hefyd.[1]
Prosiect Mercher oedd yr un cyntaf, yn lansio unigolion i'r ofod. Wedyn daeth Prosiect Gemini; 10 ehediad, pob un efo 2 o bobl. Adeiladwyd Safle Lansiad 39 rhwng 1962 a 1965 ar gyfer rocedi Sadwrn. Gorffennodd Prosiect Gemini ym 1966.