Mae Camlas Kennet ac Avon yn cynnwys 3 elfen; Dyfrffordd Kennet, o Newbury i Reading, agorwyd ym 1723; y gamlas rhwng Caerfaddon a Newbury, agorwyd ym 1810; a Dyfrffordd Afon o Gaerfaddon i Fryste, agorwyd ym 1727.[1]John Rennie oedd peiriannydd i'r gamlas. Crewyd cronfa dŵr Wilton i gyflenwi dŵr i'r gamlas, ac agorwyd chwarel yn ymyl Caerfaddon i hwyluso adeiladu'r gamlas.
Agorwyd rheilffordd rhwng Llundain a Bryste ym 1841, yn cystadlu yn erbyn y gamlas. Ym 1852, prynwyd y gamlas gan y Rheilffordd y Great Western.
Caewyd y gamlas ym 1955.
Adfywiad
Ffurfiwyd Ymddiriodolaeth Kennet ac Avon, ac ail-agorodd y gamlas ym 1990.