Dinas yn Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Caerwynt neu Caer-wynt (Saesneg: Winchester).[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan
Dinas Caerwynt. Mae'n ganolfan weinyddol yr ardal an-fetropolitan honno, yn ogystal â sir seremonïol
Hampshire a sir an-fetropolitan Hampshire. Saif ar lan Afon Itchen.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Caerwynt boblogaeth o 45,184.[2]
Mae'n ddinas hanesyddol sy'n gartref i Eglwys Gadeiriol Caerwynt, a godwyd yn yr 11g ar safle eglwys gynharach. Fel prifddinas teyrnas Sacsonaidd
Wessex a safle llys ei brenhinoedd, bu bron mor bwysig â Llundain yng nghyfnod yr Eingl-Sacsoniaid.
Mae'n gartref i Goleg Caerwynt, ysgol gyhoeddus hynaf Lloegr, a sefydlwyd gan William o Wykeham yn 1382.
Bu farw'r nofelydd Jane Austen yn y ddinas.
Adeiladau a chofadeiladau
Enwogion
Gweler hefyd
Cyfeiriadau