CERN |
|
Enghraifft o: | sefydliad rhyngwladol, nuclear research institute |
---|
Label brodorol | Conseil Européen pour la Recherche Nucléaire (CERN) |
---|
Dechrau/Sefydlu | 29 Medi 1954 |
---|
Yn cynnwys | Llyfrgell CERN |
---|
Lleoliad yr archif | Niels Bohr Library & Archives |
---|
|
Aelod o'r canlynol | ORCID, Digital Preservation Coalition, Linux Foundation, World Wide Web Consortium, Global Open Science Hardware, arXiv, DataCite, Open Access Scholarly Publishers Association, Coalition for Advancing Research Assessment, European Open Science Cloud Association, UNESCO Global Open Science Partnership, Eiroforum |
---|
Gweithwyr | 2,635 |
---|
Ffurf gyfreithiol | Internationale Organisation |
---|
Pencadlys | Prévessin-Moëns, Meyrin |
---|
Enw brodorol | Organisation européenne pour la recherche nucléaire |
---|
Gwladwriaeth | Y Swistir, Ffrainc |
---|
Gwefan | https://home.cern, https://home.cern/fr |
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfundrefn ar gyfer ymchwil niwclear ar raddfa atomig ac is-atomig yw'r Cyfundrefn Ewropeaidd dros Ymchwil Niwclear (Ffrangeg: Organisation Européenne pour la Recherche Nucléaire - yn gynt Conseil Européen pour la Recherche Nucléaire), a adnabyddir fel CERN (sef: /ˈsɝːn/ (IPA: [sɛʀn]) yn Ffrangeg).
CERN yw labordy ffiseg gronynnau (Saesneg: particle physics laboratory) mwya'r byd ac mae'n cynnwys cyflymydd gronynnau mwyaf pwerus y byd sydd wedi ei leoli yn yr ardal rhwng y mynyddoedd Jura a'r Alpau yn y Swistir yn agos i ffin Ffrainc. Mae dros 2,600 o staff llawn-amser a 7,931 o wyddonwyr yn gweithio ar y prosiect. Mae dros 20 o wledydd Ewrop (gweler y map); yn cynnwys 580 prifysgol yn cyfrannu i'r prosiect.
Yn swyddogol, nid yw safleoedd CERN yn dod o dan oruchwyliaeth naill ai'r Swistir na Ffrainc.
Hanes
Ar 29 Medi 1954 daeth 11 gwlad gorllewin Ewrop at ei gilydd i arwyddo cytundeb a oedd yn eu clymu i'r prosiect hwn. Yn 1954 newidiwyd enw'r mudiad i Organisation Européenne pour la Recherche Nucléaire ond penderfynwyd cadw'r hen acronym CERN.[1]
Yn fuan wedi ei sefydlu, datblygodd y gwaith i fod yn fwy nac ymchwil i mewn i'r niwclews atomig, gan ymestyn i ynni-uwch, maes ffiseg sydd yn ymwneud â'r rhyngweithio rhwng gronynnau is-atomig ac felly, cyfeirir at CERN yn aml fel: European laboratory for particle physics (Laboratoire européen pour la physique des particules).
Lyn Evans o Aberdâr oedd cyfarwyddwr y prosiect LHC.
Darganfyddiadau
Mae nifer o ddarganfyddiadau ffiseg wedi'i wneud parthed â chnewyllyn yr atom yn CERN. Dyma rai ohonynt:
- 1973: Darganfod cerrynt niwtral yn Siambr Swigen Gargamelle[2]
- 1983: Darganfod bosonau W a Z yn arbrofion UA1 a UA2.[3]
- 1989: Darganfod sawl teulu o niwtrinos sydd ar binacl boson Z.
- 1995: Creu (am y tro cyntaf) atomau Gwrth-hydrogen yn arbrawf PS210.[4]
- 1999: Darganfod CP-violation uniongyrchol yn arbrawf NA48 [5]
- 2011: Cynnal atomau Gwrth-hydrogen yn yr arbrawf ALPHA am dros 15 munud[6]
- 2012: Cynhyrfu'r trosiad cyseiniol cwantwm cyntaf mewn gwrth-atom (Gwrth-hydrogen) gan defnyddio microdonnau yn yr arbrawf ALPHA[7]
- 2013: Darganfod yr Higgs Boson (cyhoeddiad petrus)
Yn 1984 cyflwynwyd y Wobr Nobel ffiseg i Carlo Rubbia a Simon van der Meer am eu gwaith yn paratoi'r ffordd i ddarganfod bosonau W a Z.
Yn 1992 aeth y Wobr Nobel ffiseg i'r ymchwilydd Georges Charpak o CERN am ei "ddarganfyddiad ac am ddatblygu synwyryddion cnewyllol."
Y cyfrifiadur
Dechreuodd y we fyd-eang yma yn CERN mewn prosiect o'r enw ENQUIRE, a sefydlwyd gan Sir Tim Berners-Lee a Robert Cailliau yn 1989. Roedd y prosiect yn ymwneud â thestun, neu uwch-destun a oedd yn cysylltu â'i gilydd. Ei bwrpas wrth gwrs oedd cysylltu'r holl wyddonwyr byd-eang oedd yn gweithio gyda'i gilydd. Ar 30 Ebrill 1993, cyhoeddodd CERN fod y We Fyd-eang (neu www) am ddim i bawb. Mae copi o'u gwefan gynharaf hefyd i'w weld.[8] I roi hyn mewn cyd-destun, yn 1996 y lansiwyd y wefan Gymraeg cynhwysfawr gyntaf.[9]
Cyn y gwaith hwn ar y we, roedd CERN eisoes wedi bod yn flaenllaw iawn yn datblygu'r rhyngrwyd gan gychwyn ar ddechrau'r 1980au.[10]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol