Comed yw C/2020 F3 (NEOWISE), neu Comed NEOWISE, gydag orbit sydd bron yn barabolig a ddarganfuwyd ar 27 Fawrth 2020 gan delesgop gofod NEOWISE. Disgwylir i'r gomed aros yn weladwy i'r llygad noeth ym mis Gorffennaf.
Hanes ac arsylwadau
Pasiodd Comed NEOWISE agosaf at yr Haul ar 3 Gorffennaf 2020 ar bellter o 0.29 uned seryddol (43×10^6 km). Roedd y gomed lai nag 20 gradd o'r Haul rhwng 11 Mehefin 2020 a 9 Gorffennaf 2020. Erbyn 10 Mehefin 2020 gan fod y gomed yn cael ei cholli i lewyrch yr Haul, roedd yn faint ymddangosiadol 7. Pan aeth y gomed i olwg yr arsyllfa SOHO LASCO C3 ar 22 Mehefin 2020 roedd y gomed wedi cynyddu i faint 3.[1] Ym mis Gorffennaf, mae adlewyrch Comet NEOWISE wedi cynyddu i faint +1, llawer uwch na'r disgleirdeb a gyrhaeddwyd gan C/2020 F8 (SWAN), ac mae'r gomed wedi datblygu ail gynffon. Mae'r gynffon gyntaf wedi'i gwneud o nwy ac mae'r ail gynffon ddiweddarach wedi'i gwneud o lwch.
Bydd yn dynesu'n agosaf at y Ddaear ar 23 Gorffennaf 2020 ar bellter o 0.69 uned seryddol (103×10^6 km). Bydd y daith perihelion hwn yn cynyddu cyfnod orbitol y gomed o tua 4500 o flynyddoedd i tua 6800 o flynyddoedd.
Oriel
Cymylau nosloyw a Chomed Neowise o Aberogwen, ger Bangor. 11 Gorffennaf 2020