Ffurfiwyd y fwrdeistref ar 1 Ebrill 1974 fel ardal an-fetropolitan o dan reolaeth yr hen sir an-fetropolitan Berkshire. Pan ddiddymwyd y cyngor sir ar 1 Ebrill 1998, daeth y fwrdeistref yn awdurdod unedol.
Mae'r fwrdeistref wedi'i chanoli ar dref Reading. Fodd bynnag, mae maestrefi y dref yn ymestyn i awdurdodau cyfagos Gorllewin Berkshire a Bwrdeistref Wokingham.