Ardal an-fetropolitan yn Swydd Derby, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Bwrdeistref High Peak (Saesneg: Borough of High Peak).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 539 km², gyda 92,666 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio Ardal Dyffrynnoedd Swydd Derby i'r de-ddwyrain, Swydd Stafford i'r de, Swydd Gaer a Manceinion Fwyaf i'r gorllewin, Gogledd Swydd Efrog i'r gogledd, a De Swydd Efrog i'r gogledd-ddwyrain.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir yr ardal yn 22 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Buxton, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Chapel-en-le-Frith, Glossop, Hadfield, New Mills a Whaley Bridge.
Cyfeiriadau