Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale (Saesneg: Metropolitan Borough of Rochdale).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 158 km², gyda 222,412 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Oldham i'r de-ddwyrain, Dinas Manceinion i'r de, Bwrdeistref Fetropolitan Bury i'r gorllewin, Swydd Gaerhirfryn i'r gogledd, a Gorllewin Swydd Efrog i'r gogledd-ddwyrain.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Mae'r fwrdeistref yn ardal ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Rochdale ei hun. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Heywood, Littleborough, Middleton a Milnrow.
Cyfeiriadau