Drama firagl yn yr iaith Lydaweg yw Buhez Santes Nonn (Cymraeg: Buchedd Santes Non). Mae'n destun Llydaweg Canol sy'n adrodd hanes bywyd (buchedd) Non, y santes o Gymraes sy'n fam i Ddewi Sant.
Roedd yn cael ei pherfformio yn gyhoeddus am ganrifoedd yn pardon Non ym nhref Dirinon, Finisterre, Llydaw, lle credid fod Non wedi'i chladdu.
Gweler hefyd
Llyfryddiaeth
Ceir y testun gwreiddiol gyda chyfieithiad Ffrangeg a nodiadau yn:
- E. Ernault (gol. a chyf.), 'La Vie de Sainte Nonne', Revue celtique 8 (1887), tt. 230-301, 405-491.