Mae Bryniau Cheviot (Saesneg: Cheviot Hills neu'r Cheviots) yn fryniau am y ffin rhwng Lloegr a'r Alban, yn Northumberland ar yr ochr Seisnig a Gororau'r Alban ar yr ochr Albanaidd, a ffurfiwyd gan folcanigrwydd cynt. The Cheviot ydy'r copa uchaf ohonyn nhw, 815 medr uwchben lefel y môr. Rhed llwybr y Pennine Way ar hyd rhan o'r grib. Mae rhaeadr Linhope Spout yn atyniad ymwelwyr yn yr ardal.