Gelwir y mathau hyn o siambrau yn ”garneddau cellog crynion” ac fe gofrestrwyd Bryn yr Hen Bobl fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: AN006. Defnyddiwyd yr heneb hon ar gyfer defodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw.
Cloddwyd y safle yn drwyadl yn 1929. Mae carnedd o siap aren yn gorchuddio siambr blaen gyda mynediad sy'n wynebu i'r dwyrain, man codi'r haul. Darganfuwyd olion tân golosg yn y 'cwrt', sef ceg y fynedfa, a llenwyd hyn yn ddiweddarach gyda cherrig. Cafwyd hyd i ddeunydd neolithig yn gymysg â'r cerrig hyn, yn cynnwys bwyeill carreg a chrochenwaith. Saif yr heneb ar deras artiffisial 12 metr o led sy'n ymestyn am 100 metr i gyfeiriad y de. Codwyd hyn cyn y garnedd ei hun. Roedd gweddillion o leia ugain o unigolion yn y siambr gladdu.[2][3]
Hanner milltir i'r gogledd ceir siambr gladdu Plas Newydd.