Bryn Mawr, Dolgellau

Bryn Mawr, Dolgellau
Mathffermdy Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1672 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDolgellau Edit this on Wikidata
SirDolgellau Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr192.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.730724°N 3.88439°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Ffermdy enwog tua milltir a hanner i'r de o Ddolgellau, Gwynedd yw Bryn Mawr, a roddodd ei enw i Goleg Bryn Mawr a nifer o adeialadau a llefydd eraill yn Unol Daleithiau America. Yma y ganed y crynwr blaenllaw Rowland Ellis (1650 - Medi 1731) a ymunodd â'r Crynwyr tua 1672, ac a gafodd ei garcharu nifer o weithiau.[1]

Cofrestrwyd y ffermdy gan Cadw gyda'r chif 5137 ar 19 Mehefin 1990.[2]

Lleolwyd y nofel Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames yma ym Mryn Mawr.

Hanes yr adeilad

Ceir dist derw gyda'r arysgrif canlynol, sy'n rhoi dyddiad codi'r tŷ:

"Y TU HWN YN Y FLWYT 1617 REES LEWIS AI GWNAETH"

Ceir hefyd tŷ bychan gerllaw, a ddefnyddiwyd, efallai, ar gyfer y gweision a'r morynion, sef Tyddyn-y-Traian. Codwyd estyniad tua 1750 yng nghefn y tŷ ac un arall yn y ffrynt a'r gogledd tua 1800. Ŵyr Rhys (nu 'Rees' yn ysgrifenedig) oedd Rowland Ellis a aned yma. Daeth yn un o arweinwyr y Crynwyr, gan ymfudo i Bennsylvania yn l686. Yno hefyd y bu farw yn 1731, gan adael gwaddol enfawr i godi ysgol, sydd erbyn heddiw yn un o brif golegau UDA.

Llefydd a enwyd ar ôl Bryn Mawr

Rhestr Wicidata:

Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. archives.library.wales; archifau Crynwyr Sir Feirionnydd yn y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 18 Mehefin 2019.
  2. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 18 Mehefin 2019.