Ymladdwyd Brwydr Degsastan tua 603 rhwng Æthelfrith, brenin Brynaich ac Áedán mac Gabráin, brenin Dál Riata. Nid oes sicrwydd am leoliad "Degsastan", ond cred rhai ysgolheigion mai Dawstane yn Liddesdale yn yr Alban ydoedd.
Yn ôl Beda yn ei Historia ecclesiastica gentis Anglorum, roedd Æthelfrith wedi ennill nifer o fuddugoliaethau dros deyrnasoedd Brythonig yr Hen Ogledd, ac wedi cynyddu ei nerth a'i diriogaethau yn fawr. Arweiniodd Áedán fyddin fawr yn ei erbyn, ond Æthelfrith fu'n fuddugol, er i'w frawd Theodbald gael ei ladd.