Roedd Vercingetorix wedi ei benodi yn arweinydd y gwrthryfel Galaidd yn erbyn Rhufain. Enillodd fuddugoliaeth dros y Rhufeiniaid ym mrwydr Gergovia, ond pan ymosododd ar y Rhufeiniaid dan gredu eu bod yn encilio, dioddefodd y Galiaid golledion sylweddol.
Enciliodd Vercingetorix i Alesia, a gosododd Cesar warchae arno. Adeiladodd y Rhufeiniaid fur o amgylch y ddinas, gyda mur allanol i atal unrhyw ymgais gan y Galiaid tu allan i Alesia i godi'r gwarchae. Ceisiodd byddin fawr o nifer o lwythau godi'r gwarchae, ond gorchfygwyd hwy gan Cesar, a bu raid i Vercingetorix ildio. Cadwyd ef yn garcharor yn Rhufain am bum mlynedd cyn ei ddienyddio.
Brwydr Alesia oedd y frwydr fawr olaf rhwng y Galiaid a'r Rhufeiniaid, a chyda'r fuddugoliaeth yma cwblhaodd Cesar goncwest Gâl.