Gwelir yr oedolyn bychan hwn yn aml yn fflapian rhwng brigau a dail uchel y dderwen yng Ngorffennaf a dechrau Awst. Mae gan y gwryw haen borffor ar ran uchaf ei adenydd ac mae gan y fenyw ddau smotyn bychan o'r lliw hwn. Mae'n eitha cyffredin yng Nghymru ac yn ne a chanol Lloegr ond yn brin iawn yn yr Alban ac Iwerddon.
Cyffredinol
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r brithribin porffor yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Cofnodion unigol
Yn ystod haf poeth poeth 1976 cafwyd (DB) nifer o rhain yn hedfan dros y grug ym Mwlch Drws Ardudwy, Meirionnydd, ymhell iawn o’u cynefin arferol ar frig coed derw (chwilio am ddŵr meddai un gwybodusyn ar y pryd). Cafwyd cofnod tebyg ar 14 Gorffennaf 2019 o ardal Golan (Cwm Ystradllyn) ar ôl cyfnod hir o sychder a straen canlynol ar goed, a phyliau anarferol o wres (yn nodedig gwres mawr 28 Mehefin 2019).[3]
31 Awst 1992: Brithribin porffor yn niferus yn Abergwyngregyn - gweld sawl tro - canol Awst hyd ddiwedd y mis [2]