Roedd yr uwchgapten Brinley "Bryn" Richard Lewis (4 Ionawr 1891 – 2 Ebrill 1917) yn chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru, a fu hefyd yn chwarae rygbi i dimoedd Casnewydd a Phrifysgol Rhydychen. Mae’n un o’r deuddeg chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a fu farw ar wasanaeth milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ganwyd Bryn Lewis ym Mhontardawe, Cymru ar y 4ydd o Ionawr 1891. Roedd ei rieni'n berchen gwaith haearn Glantawe, Pontardawe. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Abertawe, lle bu'n gapten y tîm rygbi, gan chwarae i dîm bechgyn ysgol Cymru ym 1905. Aeth ymlaen i ddarllen y gyfraith yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, gan ennill ei le yn nhîm rygbi'r coleg, lle’r enillodd 3 ‘blue’ wrth gael ei ddewis ar gyfer tair gêm ‘Varsity’ yn olynol i’r brifysgol rhwng 1909-11. Byddai hefyd yn chwarae i dîm rygbi Pontardawe yn ystod y gwyliau, ac ymunodd â thîm Abertawe[1] yn ystod tymor 1909-10.
Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon fel rhan o Bencampwriaeth y Pum Gwlad yn ystod tymor 1911-12.
Roedd tîm Cymru’n ddibrofiad a collwyd y gêm o 12-5, ac fe gafodd Bryn Lewis ei feirniadu'n hallt gan y wasg. Llwyddodd i ad-ennill ei enw da yn ystod y tymor canlynol yn chwarae i dîmoedd Abertawe, Morgannwg a Chaergrawnt. O ganlyniad, cafodd gyfle arall i chwarae i Gymru yn erbyn Iwerddon ym 1912-13. Sgoriodd Lewis ddwy gais yn y gêm a welodd Cymru'n ennill o drwch blewyn. Cafodd gyfle i chwarae dros y Barbariaid yn ystod y Pasg yr un flwyddyn. Chwaraeodd eto dros y Barbariaid ym mis Ebrill 1914, ond cafodd ei hepgor o dîm Cymru yn nhymor 1913-14.
Cychwynodd ar swydd fel clerc erthyglog yn Abertawe ym 1914, ac ymunodd â Iwmyn Morgannwg ym mis Hydref 1914. Fel rhan o gynllun recriwtio'r fyddin, trefnwyd gêm arbennig ar Barc yr Arfau ym mis Ebrill 1915, a dyma'r tro olaf i Bryn Lewis chwarae gêm fawr o rygbi dros Gymru. Er mwyn cynyddu'r diddordeb yn y gêm, gwerthwyd y gêm fel gêm ryngwladol answyddogol yn erbyn Lloegr. Collodd Cymru'r gêm o 26-10, ond sgoriodd Bryn Lewis gais.
Ymunodd ag adran arfog y 38th Welsh Division yn fuan wedi hyn, a chyrraedd Ffrainc ar ddydd Nadolig, 1915. Brwydrodd ym mrwydr Mametz Wood, cyn i'r gatrawd symud ymlaen o'r Somme i Ypres. Penodwyd Bryn Lewis yn brif swyddog ac uwchgapten y "B Battery 122 Brigade RFA". Yn ystod daib yn y frwydr, a thra'n ymlacio'n bwyta ei frecwast gyda chyd swyddog, trawyd y ddau gan siel strae.[2] Lladdwyd y ddau, ac fe'u claddwyd ym mynwent 'Frme-Olivier, Elverdinge, ger Boeshinge.[3]
Llyfryddiaeth
Gwyn Prescott, Call them to Rememberance: the Welsh rugby internationals who died in the Great War (Caerdydd, 2014)
Cyfeiriadau