Cymuned yn départementPenn-ar-Bed (Finisterr), Llydaw, yw Brieg (Ffrangeg: Briec). Mae wedi'i lleoli rhyw 15 cilometr o’r brif ddinas rhanbarthol Kemper (Quimper). Mae'n ffinio gyda Kast, Edern, Ergué-Gabéric, Gouézec, Landrévarzec, Landudal, Langolen, Lothey, Kemper ac mae ganddi boblogaeth o tua 5,808 (1 Ionawr 2021). Poblogaeth y gymuned yn 2012 oedd 5,497. Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.
Cynhelir nifer o ddiwydiannau traddodiadol yn y lle – yn arbennig cynhyrchu galettes, y bisgedi enwog. Daw gwaith trin gwastraff sy’n gwasanaethu ardal fawr ag incwm i’r dref hefyd. Gefeilldref Brieg ydyw Rhuthun, Sir Ddinbych, ac fel Rhuthun, mae'n ganolfan amaethyddol.
Mae Brieg yn adnabyddus am y bagad, band traddodiadol a ystyrir ymhlith y goreuon yn Llydaw. Yn ddiweddar agorodd y bagad bencadlys ymarfer newydd yn Plasenn Rhuthun (Place de Ruthin). Mae dawnswyr traddodiadol Gwen ha Du o Landrevarzec hefyd yn perfformio ar y lefel uchaf.