Ffilm drama antur o 2006 am Ryfel Cartref Sierra Leone yw Blood Diamond, a enwebwyd am bum o Wobrau'r Academi. Cyfarwyddwyd gan Edward Zwick a serennodd Leonardo DiCaprio, Jennifer Connelly an Djimon Hounsou. Mae'r teitl yn cyfeirio at ddiemyntau gwaed, sef diemyntau sydd wedi eu cloddio mewn rhanbarth rhyfel yn Affrica, ac yn cael eu defnyddio i ariannu arglwyddi rhyfel Affrica a chwmniau diemwnt ar draws y byd.