Blog

Blog
Mathgwefan, cyfnodolyn, cyfryngau cymdeithasol, cyhoeddiad digidol, gwreiddiol Edit this on Wikidata
Label brodorolblogue Edit this on Wikidata
Rhan oY rhyngrwyd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysblog post Edit this on Wikidata
Gwneuthurwrblogiwr Edit this on Wikidata
Enw brodorolblogue Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwefan gan unigolyn neu grŵp sy'n cael ei ddiweddaru'n gyson gyda chofnodion mewn trefn wrth-gronolegol, gan amlaf gan ddefnyddio meddalwedd rheoli cynnwys megis Blogger, LiveJournal neu WordPress yw blog.

Mae'r term ''Blog'' yn dalfyriad o'r term Saesneg ''Web log'', a ddefnyddwyd yn wreiddiol i ddisgrifio cofnodion, neu log, o bethau diddorol roedd person yn eu darganfod ar y we.[1]

Nodweddir blogiau hefyd gan y gallu i roi sylwadau ar gofnodion, yn ogystal â ffrydiau RSS, sydd yn galluogi darllenwyr i dderbyn y cofnodion diweddaraf trwy ddarllenwr RSS. Mae RSS hefyd yn golygu y gall cynnwys blog gael ei ddosbarthu i wefannau eraill yn awtomatig wrth iddynt gael eu ddiweddaru.

Gall testun blog amrywio o hynt a helynt bywyd personol yr awdur i ganolbwyntio ar bwnc penodol, fel chwaraeon, crefydd neu wleidyddiaeth.[2] Mae yna hefyd flogiau sydd yn arbennig ar gyfer cofnodi lluniau yn uniongyrchol o ffôn symudol neu wedi eu llwytho o gamera digidol.

Enghreifftiau o flogiau Cymraeg a Chymreig

Mae dros 400 o flogiau ar gael yn y Gymraeg[3] ond daeth cynnydd yn y niferoedd yn nechrau 2003, o bosibl yn sgil dylanwad Morfablog Archifwyd 2008-03-12 yn y Peiriant Wayback, un o'r blogiau Cymraeg cynharaf, yn unol a thŵf maes-e, gwefan drafod yn Gymraeg, lle bu galw ar bobl i ddechrau blogiau er mwyn cynyddu'r swmp o wefannau a gynhelir yn Gymraeg.

Mae cyfran o flogiau Cymraeg yn cael eu cynnal gan bobl sy'n byw y tu allan i Gymru, gyda llawer ohonynt heb gysylltiad â Chymru na'r iaith.[4]

Gellir gweld detholiad o gofnodion o flogiau Cymraeg ar y Blogiadur Archifwyd 2009-01-07 yn y Peiriant Wayback

Lleoleiddio'r gwasanaethau blogio i'r Gymraeg

Un o nodweddion gwasanaethau blogio yw eu hygyrchedd a'r gallu i gyfieithu'r patrymlun i'r Gymraeg. Mae platfform blogio Wordpress wedi ei leoleiddio i'r Gymraeg.[5]

Cyfeiriadau

  1. http://www.rebeccablood.net/essays/weblog_history.html
  2. Gweler er engrhaifft, Blog Droed Archifwyd 2008-06-22 yn y Peiriant Wayback am bêl-droed, Cristnogblog am weithgareddau Cristnogol yng Nghymru, a Blog Vaughan Roderick, blog Golygydd Materion Cymreig y BBC.
  3. Rhestr Blogiau Cymraeg Hedyn http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_Cymraeg
  4. (Saesneg) The Blogiadur—A community of Welsh language bloggers[dolen farw] Cunliffe, D. Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback, a Honeycutt, C.[dolen farw] (2008), tud. 6
  5. Pecyn iaith Cymraeg WordPress ar meddal.com