Billy Douglas
|
Enw llawn
|
William Matthew Douglas
|
Dyddiad geni
|
(1863-07-02)2 Gorffennaf 1863
|
Man geni
|
Caerdydd
|
Dyddiad marw
|
24 Medi 1943(1943-09-24) (80 oed)
|
Taldra
|
5'8" [1]
|
Pwysau
|
10St 8Lb
|
Gwaith
|
Allforio glo
|
Gyrfa rygbi'r undeb
|
Gyrfa'n chwarae
|
Safle
|
Blaenwr
|
Clybiau amatur
|
Blynyddoedd
|
Clwb / timau
|
1880–1883 1883–?
|
Treganna Caerdydd
|
Timau cenedlaethol
|
Blynydd.
|
Clybiau
|
Capiau
|
|
1886–1887
|
Cymru
|
4
|
(0)
|
Roedd William Matthew Douglas (2 Gorffennaf 1863 – 24 Medi 1943) yn olwr rygbi 'r undeb Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Treganna, Caerdydd a rygbi rhyngwladol i Gymru. Roedd Douglas hefyd yn ddyfarnwr rygbi, bu'n dyfarnu ar bedair gêm ryngwladol.
Cefndir
Ganwyd Douglas yng Nghaerdydd yn blentyn i John Douglas, brocer llongau, a Mary (née Donovan) ei wraig. Roedd ei dad yn dod o'r Alban a'r fam o'r Iwerddon.
Mewn cyfnod pan oedd rygbi yn gêm amatur ac nid oedd hawl dderbyn tal am chwarae bu Douglas yn gweithio fel clerc i gwmni allforio glo cyn cael ei ddyrchafu i reolwr y cwmni ac yna'n berchennog pwll glo.
Gyrfa rygbi
Chwaraeodd Douglas rygbi clwb i Glwb Rygbi Treganna a Chlwb Rygbi Caerdydd, ac yn nhymor 1885-86 olynodd Frank Hancock fel capten y tîm cyntaf.[2] Dewiswyd Douglas i chwarae ei gêm gyntaf i dîm cenedlaethol Cymru fel rhan o Bencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1886 yn y gêm agoriadol yn erbyn Lloegr. Capten y tîm oedd Charlie Newman o Gasnewydd ac roedd Douglas yn un o dri chwaraewr o Gaerdydd a enillodd eu cap cyntaf yn y gêm. Er i Gymru golli'r gêm, roedd yn gêm agos ac ail-ddewiswyd Douglas ar gyfer gêm ryngwladol nesaf Cymru, y tro hwn yn erbyn yr Alban. Collodd Cymru'r gêm hon, ond oherwydd anghydfod ag Iwerddon methwyd â chwblhau'r holl gemau yn y twrnamaint. Yn nhwrnamaint y flwyddyn nesaf dewiswyd Douglas ar gyfer y ddwy gêm gyntaf. Y cyntaf oedd gêm gyfartal yn erbyn Lloegr yn Llanelli, canlyniad gorau'r wlad hyd yma yn erbyn y Saeson. Ei bedwaredd gêm a'r olaf oedd ail gêm Pencampwriaeth 1887 y tîm, oddi cartref i'r Alban, pan gollodd Cymru eto.
Bedair blynedd ar ôl diwedd ei yrfa chwarae ryngwladol, cychwynnodd Douglas ei yrfa dyfarnu ryngwladol. Dewiswyd Douglas i ddyfarnu gêm Pencampwriaeth Pedwar Gwlad 1891 rhwng Iwerddon a Lloegr yn Lansdowne Road. Roedd ei ail gêm fel dyfarnwr ym 1894, mewn gêm rhwng Lloegr ac Iwerddon a chwaraewyd y tro hwn ar y Rectory Field, Blackheath, Llundain.[3] Roedd ei ddwy gêm ryngwladol olaf fel dyfarnwr rhwng Lloegr a'r Alban, ym 1896 a 1903. Roedd gêm 1903 yn nodedig, gan iddi weld unig ymddangosiad John Dallas o'r Alban, a sgoriodd gais yn y gêm hefyd. Byddai Dallas ei hun yn mynd ymlaen i ddyfarnwr ar lefel ryngwladol, yn y gêm enwog ym 1905 rhwng Cymru a Seland Newydd.
Gemau Rhyngwladol
Cymru[4]
Yn ogystal â chwarae rygbi bu hefyd yn chwarae criced i dîm y Barri.[5]
Teulu
Ym 1887 priododd Douglas ag Emma Rees ym Mhenarth fu iddynt dau fab a merch.
Cyfeiriadau