Dinas yn rhan orllewinol o Los Angeles County, yn nhalaith Califfornia, Unol Daleithiau America, yw Beverly Hills. Mae Beverly Hills a dinas Gorllewin Hollywood i'll dau wedi'u hamgylchynnu'n llwyr gan ddinas Los Angeles. Mae "Triongl Platinwm" yr ardal yn llawn cymdogaethau cefnog megis Beverly Hills a chymdogaethau Los Angeles megis Bel-Air a Holmby Hills. Yng nghyfrifiad 2006, y boblogaeth oedd 34,980. Mae Beverly Hills yn gartref i nifer fawr o enwogion Hollywood a phobl cyfoethog eraill.