Ganwyd Gibbon ym Mhenalun, Sir Benfro yn blentyn i Benjamin Gibbon ficer plwyf Penalun a Jane ei wraig. Bu farw'r tad pan oedd y plentyn yn 10 oed gan hynny cafodd lle fel disgybl yn Yr Ysgol I Blant Amddifad Clerigwyr yn Acton Swydd Middlesex. Roedd yr ysgol yn bodoli i roi addysg sylfaenol mewn darllen, ysgrifennu a rhifyddeg i blant clerigwyr Anglicanaidd di-dad, hyd eu bod yn ddigon hen i'w rhoi mewn prentisiaeth.[2] Prentisiwyd Gibbon i'r ysgythrwr dotwaith Edward Scriven.
Gyrfa
Wedi cyflawni ei erthyglau o brentisiaeth aeth Gibbon i weithio i'r llin-ysgythrwr John Henry Robertson yn swydd Buckingham. Daeth yn ysgythrwr o gryn allu trwy arloesi mewn cymysgu dotwaith a gwaith llinell yn ei blatiau.
Creodd Gibbon platiau ar gyfer llyfrau a gyhoeddwyd gan rai o argraffwyr mawr Llundain megis Cwmni Moon. Roedd llawer o'i waith yn copïo rhai o ddarlunwyr enwocaf ei gyfnod, megis Syr Edwin Landseer.[3] Ymysg ei blatiau yn seiliedig ar waith Landseer mae:
The Twa Dogs, 1827;
The Travelled Monkey, 1828;
The Fireside Party, 1831;
Jack in Office, 1834;
Suspense, 1837;
The Shepherd's Grave, 1838;
The Shepherd's Chief Mourner, 1838;
Be it ever so humble, there's no place like Home, 1843;
The Highland Shepherd's Home, 1846;
Roebuck and Rough Hounds, 1849.
Cynhyrchodd portreadau o'r Frenhines Victoria a'i gyn meistr, Edward Scriven.
Teulu
Ni fu Gibbon yn briod ond rhoddodd gartref yn ei dŷ i nifer o blant amddifad.
Marwolaeth
Bu'n wan ei iechyd o'i blentyndod a bu farw yn ei gartref yn Regent's Park, Llundain yn 47 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Kensal Green.