Ganwyd Telynfab yn Nowlais, yn ail blentyn a mab hynaf John Evans, glöwr, a Sarah ei wraig. Roedd ei dad yn hanu o Sir Gaerfyrddin a'i fam o Geredigion. Fe dderbyniodd rhyw fath o addysg fel plentyn bach, gan fod cyfrifiad 1851 yn ei ddisgrifio fel mab 6 oed at school.[2] Ni pharodd ei gyfnod dan addysg yn hir iawn gan ei fod wedi dechrau gweithio yn y pwll glo erbyn ei fod yn wyth oed. Roedd y gwaith mor galed i blentyn mor ifanc, bu'n rhaid i'w dad ei gario fe i ac o'r gwaith yn aml. [3] Ym 1860 symudodd y teulu i Aberpennar, lle fu Telynfab, ei dad a Thomas, ei frawd iau, yn gweithio fel glowyr. Ym 1866 lladdwyd y tad mewn damwain yn y pwll glo, gan adael Telynfab a'i frodyr gyda'r angen i ddarparu ar gyfer eu mam weddw a saith o blant.[4]
Bywyd crefyddol
Roedd tad Telynfab yn aelod gyda'r Bedyddwyr, er nid oedd ei fam yn aelod eglwysig. Roedd Telynfab yn mynychu'r oedfaon yng Nghapel Moriah, Dowlais gyda'i dad. Yn 12 oed daeth o dan deimladau dwys o grefydd mewn oedfa ym Moriah, arhosodd ar ôl ar gyfer y seiat, ac wedi adrodd ei brofiad ceisiodd aelodaeth gyflawn o'r eglwys trwy fedydd.[3]
Ychydig wedi marwolaeth ei dad ym 1866 dechreuodd Telynfab pregethu, fel pregethwr cynorthwyol, yng nghapel y Rhos Aberpennar. Ychydig yn llai na blwyddyn ar ôl dechrau pregethu, rhoddodd gorau i'w waith yn y pwll glo ac aeth i ysgol y Graig yn Abertawe i baratoi ar gyfer yr arholiadau mynediad i Athrofa'r Bedyddwyr yn Hwlffordd. Llwyddodd yn yr arholiadau a dechreuodd ar gwrs hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yn yr Athrofa ym 1868.[5]
Ar ddiwedd ei drydedd flwyddyn yn yr athrofa derbyniodd Telynfab alwad i fugeilio capel Seion, Tŷ Dewi.[6]
Ar ôl pum mlynedd yn Nhŷ Dewi dderbyniodd alwad gan gapel y Gadlys, Aberdâr lle fu'n weinidog am weddill ei oes.[5]
Yn ystod ei weinidogaeth yn y Gadlys fe'i dewiswyd gan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yn asiant dros Gymru, ac yn ddiweddarach fe'i henwyd yn Ysgrifennydd y Gymdeithas gyfan. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Cenhadaeth Gartrefol Cymanfa Ddwyrain Morgannwg. Gwasanaethodd fel llywydd Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg.[7]
Llenor
Dechreuodd Telynfab ymddiddori yn y byd llenyddol yn ifanc. Bu'n cystadlu yn llwyddiannus yn eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol yr ysgol Sul a rhai lleol Aberpennar. Y llyfr cyntaf iddo ei gyhoeddi oedd traethawd ar "Effeithiau Niweidiol Strikes ar Fasnach y Byd" ym 1871, tra'n fyfyriwr yn Athrofa Hwlffordd.[8] Fel darlithydd poblogaidd, cyhoeddwyd nifer fawr o'i ddarlithoedd fel llyfrynnau. Bu'n cyfrannu'n aml i golofnau'r Gwladgarwr, y Geninen, Seren Cymru, ac eraill. Bu'n drysorydd yr Hauwr—cylchgrawn Ysgolion Sul Bedyddwyr Cymru, a bu yn un o olygyddion yr Herald Cenhadol Cymreig (a chyfrannydd rheolaidd i'w golofn farddonol). Roedd yn feirniad ac arweinydd poblogaidd mewn eisteddfodau lleol yng nghylch Aberdâr.[9] Bu hefyd yn arweinydd cymanfaoedd canu.
Yn ogystal a'i gyfraniad fel gweinidog a llenor, bu Telynfab yn chware rhan amlwg ym mywyd cymdeithasol a gwleidyddol ei fro.
Yn ystod cyfnod olaf Telynfab fel glöwr, bu cryn anghydfod parthed gyfundrefn y sifft dwbl. Gan ysgrifennu i'r wasg dan y ffugenw "Nero", daeth y pregethwr ifanc i amlygrwydd fel cefnogwr pybyr i ofynion y gweithwyr.[5]. Roedd yn gefnogwr brwd o'r Blaid Ryddfrydol, a fu yn areithio o blaid ethol Richard Fothergill a William Pritchard Morgan yn Aelodau Seneddol Dros Bwrdeistref Merthyr Tudful . Mewn un o'r cyfarfodydd cyfeiriodd Pritchard Morgan ato fel "Esgob y Gadlys". Glynodd yr enw, a daeth y llysenw yn fwy poblogaidd na'i enw barddol, wrth gyfeirio ato'n anffurfiol.[11]
Ym 1894 daeth yn un o aelodau cyntaf Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr, a pharhaodd yn aelod hyd ei farw. Gwasanaethodd fel clerc i Lywodraethwyr Ysgol Ramadeg y Bechgyn Aberdâr, ac etholwyd ef pedair gwaith yn olynol fel aelod o Fwrdd Ysgol Canolradd Aberdâr.[12]. Gwasanaethodd fel llywydd canghennau Aberdar o Urdd y Gwir Iforiaid ac Urdd yr Alffrediaid.
Teulu
Ymbriododd Telynfab ag Annie James o Bentyrch, Morgannwg. Bu iddynt chwech o blant tri mab a thair merch.[13]
Marwolaeth
Bu farw yn ei gartref, yn Ffordd Gadlys, Aberdâr yn 55 mlwydd oed. Bu farw o newyn a achoswyd gan diwmor a oedd yn rhwystro bwyd rhag symud o'i oesoffagws i'w stumog. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Aberdâr.[3]