Ben Woodburn Woodburn yn chwarae i Lerpwl (dan 23 oed) yn 2016 |
Gwybodaeth Bersonol |
---|
Enw llawn | Benjamin Woodburn |
---|
Dyddiad geni | (1999-10-15) 15 Hydref 1999 (25 oed) |
---|
Man geni | Nottingham, Lloegr[1] |
---|
Safle | Blaenwr |
---|
Y Clwb |
---|
Clwb presennol | Lerpwl |
---|
Rhif | 58 |
---|
Gyrfa Ieuenctid |
---|
2007–2016 | Lerpwl |
---|
Gyrfa Lawn* |
---|
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
---|
2016– | Lerpwl | 5 | (0) |
---|
Tîm Cenedlaethol‡ |
---|
2014 | Cymru o dan 15 | 2 | (0) |
---|
2015 | Cymru o dan 16 | 1 | (3) |
---|
2014–2016 | Cymru o dan 17 | 8 | (1) |
---|
2016– | Cymru o dan 19 | 4 | (2) |
---|
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 16 Mawrth 2017.
† Ymddangosiadau (Goliau).
‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 16 Mawrth 2017 |
Pêl-droediwr Cymreig yw Benjamin "Ben" Woodburn' (ganwyd 15 Hydref 1999) sy'n chwarae i Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr ac i dîm cenedlaethol Cymru ac yn aelod o dîm ieuenctid Cymru ers oedd yn 13 oed.
Ym mis Tachwedd 2016, daeth Woodburn yn sgoriwr gôl ieuengaf clwb Lerpwl erioed, a hynny yn ystod ei ail gêm erioed i'w glwb.[2] Enwyd Woodburn yn aelod o garfan Cymru am y tro cyntaf ar 16 Mawrth 2017[3]
Sgoriodd gôl gyda'i gyffyrddiad cyntaf ar ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ar 2 Medi 2017.[4]
Magwraeth
Fe'i ganed yn Nottingham ond symudodd y teulu i Tattenhall, ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mynychodd ysgol Bishop Heber yng Nghaer ac yna Rainhill High School, sef ysgol bêl-droed y Liverpool FC Academy Education Centre.[5] Mae ganddo'r hawl i chwarae i Gymru gan mai Cymraes oedd ei Nain, ar ochr ei fam.[6] Cynigiwyd lle iddo yn nhîm dan-16 Lloegr yn Awst 2014 ond gwrthododd hynny.[6]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau