Grŵp o feirdd Saesneg a oedd yn weithgar yn hanner cyntaf y 19g oedd Beirdd y Llynnoedd (Saesneg: Lake Poets).
Roeddent yn aelodau pwysig o'r Mudiad Rhamantaidd mewn llenyddiaeth Saesneg. Rhoddwyd yr enw i'r grŵp gan y cylchgrawn The Edinburgh Review yn 1817 oherwydd ei gysylltiad ag Ardal y Llynnoedd, yng ngogledd Lloegr, lle'r oedd nifer ohonynt yn byw.