Becky Morgan

Becky Morgan
Ganwyd5 Medi 1974 Edit this on Wikidata
Y Fenni Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Gogledd Carolina yn Greensboro Edit this on Wikidata
Galwedigaethgolffiwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Mae Becky Morgan (ganwyd 5 Medi 1974) yn golffiwr proffesiynol o Gymru sy'n chwarae ar Daith LPGA yn yr UDA. Mae hi'n aelod o Daith Ewropeaidd y Merched. Mae hi wedi chwarae i'r tîm Cwpan Curtis Prydain Fawr ac Iwerddon.[1]

Cafodd Morgan ei geni yn y Fenni. Dechreuodd chwarae golff pan oedd yn 12 oed. Roedd yn aelod o dimau Iau a dan-21 Cymru ac enillodd hefyd deitlau Pencampwriaeth Ysgolion Cymru 1991 a 1992. Daeth Morgan yn ail yn 1996 ac yn rownd gynderfynol ym 1997 ym Mhencampwriaeth Amatur Prydain. Daeth yn ail ym Mhencampwriaeth Chwarae Strôc Agored Amatur Prydain i Ferched 1998.[1] [2]Roedd hi'n aelod o dîm Cwpan Curtis Prydain Fawr ac Iwerddon ym 1998 a 2000 [3] ac yn aelod o dîm Tlws Vagliano yn 1997 a 1999.

Ymddangosiadau tîm

  • Pencampwriaeth Tîm Merched Ewrop (yn cynrychioli Cymru): 1995, 1997, 1999
  • Tlws Vagliano (yn cynrychioli Prydain Fawr ac Iwerddon): 1997, 1999
  • Cwpan Curtis (yn cynrychioli Prydain Fawr ac Iwerddon): 1998, 2000
  • Tlws y Gymanwlad (yn cynrychioli Prydain Fawr): 1999
  • Cwpan y Byd (yn cynrychioli Cymru): 2005, 2006, 2007, 2008
  • Y Frenhines (yn cynrychioli Ewrop): 2016

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Becky Morgan Full Career Bio" (PDF) (yn Saesneg). LPGA. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 29 Medi 2007. Cyrchwyd 2007-03-28.
  2. "Becky Morgan Player Profile". Ladies European Tour. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-11. Cyrchwyd 2007-03-27.
  3. "Previous Matches 1932-2002". USGA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-04-07. Cyrchwyd 2007-03-27.

Dolenni allanol