Roedd y Bauhaus (Almaeneg: bauen "adeiladu" + haus "tŷ") yn goleg celf, cynllunio a pensaernïaethAlmaenig o 1919-1933 a fu'n ddylanwadol ar ddyluniad modern yn ystod ail hanner yr 20g.
Sefydlwyd gan y pensaer Walter Gropius. Ei fwriad oedd uno celf, dylunio a phensaerniaeth.
Syniadaeth
Credai sylfaenwyr y Bauhaus roedd angen diwygio'r modd a ystyriwyd celf a phensaernïaeth i fod yn gyfrwng i drawsnewid cymdeithas a chreu gwell bywydau i bobl gyffredin.
Edrychai'r Bauhaus ar ddylunio mewn ffordd wyddonol. Rhoddwyd pwyslais ar godi statws crefftau i’r un lefel â chelf gain a phwysigrwydd dylunio ac ymarferoldeb defnydd ar gyfer cynnyrch masnachol i'r cyhoedd.[1]
Bu rhaid i fyfyrwyr gymryd cwrs sylfaen yn gyntaf er mwyn astudio egwyddorion craidd.
Penodwyd y peintiwr Johannes Itten ym 1919 i ddatblygu'r cwrs sylfaen. Yn lle copïo ac astudio gwaith arlunwyr enwog fel oedd yr arfer, o dan Itten bu'r myfyrwyr yn arbrofi ac yn archwilio lliw, ffurf, defnyddiau mewn awyrgylch rhydd. Gadwodd Ittens ym 1922 wrth i Gropius rhoi mwy o bwyslais ar dechnoleg a phenodwyd y constuctavist László Moholy-Nagy yn ei le.[2]
Ym 1928 ymddiswyddodd Gropius fel cyfarwyddwr a'i ddilynwyd gan y pensaer Hannes Meyer. Yn parhau gyda'r egwyddor o ddylunio ar gyfer cynhyrchu masnachol eang, ond yn symud i ffwrdd o elfennau o'r cwricwlwm oedd yn teimlo'n rhy ffurfiol gan bwysleisio defnydd cymdeithasol pensaernïaeth er budd y cyhoedd yn hytrach na moethusrwydd preifat. Bu hysbysebu, teipograffi a ffotograffiaeth yn amlwg yn gwaith y Bauhaus o dan ei arweiniad.
Gwrthwynebiad
Lleolwyd y Staatliches Bauhaus (Bauhaus Dinesig) yn wreiddiol yn nhref Weimar. Bu tref fach Weimar yn ganolfan llywodraeth Yr Almaen yn dilyn yr Rhyfel Byd Cyntaf.
Adnabyddir y cyfnod rhwng 1919 a 1933 yn yr Almaen fel Cyfnod Gweriniaeth Weimar a fu'n nodweddiadol am rhyddid a chreadigrwydd celfyddydol yn erbyn cefndir o ymladd gan grwpiau gwleidyddol Comiwnyddol ac asgell de, problemau economaidd a thlodi difrifol.
Ym 1925 bu rhaid i symud i Dessau oherwydd problemau ariannol a gwrthwynebiad y Natsïaid yn Weimar.
Roedd Dessau'n dref ddiwydiannol gan roi'r cyfle i gydweithio gyda llawer o'r cwmnïau lleol i gynllunio eu cynnyrch. Ym 1928 ymddiswyddodd Gropius fel cyfarwyddwr a'i ddilynwyd gan y pensaer Hannes Meyer. Ond pan daeth y Natsïaid i rym yn Dessau hefyd ymddiswyddodd Hannes Meyer ym 1930.
Roedd rhaid i'w olynydd Ludwig Mies van der Rohe cynnal y sefydliad yn wyneb gwrthwynebiad cynyddol. Bu rhaid symud yr ysgol eto ym 1932, y tro yma i Berlin cyn i'r Natsïaid gorfodi ei chau'n gyfan gwbl y flwyddyn ganlynol.[4]
Dylanwad
Gorfodwyd llawer o ddarlithwyr, arlunwyr a myfyrwyr a oedd yn gysylltiedig â'r Bauhaus ffoi o'r Almaen, sawl un i'r Unol Daleithiau fel Walter Gropius i Brifysgol Harvard, a Marcel Breuer a Joseph Albers ym Mhrifysgol Yale.
Wedi'r Ail Ryfel Byd daeth syniadaeth a ddatblygwyd gan y Bauhaus yn un o brif ddylanwadu dylunio a phensaernïaeth Moderniaeth a mae ei ôl i'w weld ar y cynnych, dodrefn, adeiladau, teipograffi, hysbysebion a thechnoleg a defnyddiwn bob dydd heddiw.
[5][6]
↑Bauhaus Culture: From Weimar to the Cold War, Kathleen James-Chakraborty, ISBN 0816646880, ISBN 978-0816646883, University of Minnesota Press (18 July 2006)