Mynachlog ac eglwys yn Assisi yn Umbria, yr Eidal yw Basilica San Francesco d'Assisi (Eidaleg am "Eglwys Sant Ffransis o Assisi").
Ganed Sant Ffransis o Assisi yn Assisi yn 1186. Yn fuan wedi i’r Eglwys Gatholig ei gyhoeddi yn sant yn 1228, dechreuwyd adeiladu Basilica San Francesco d'Assisi, yn cynnwys mynachlog Ffransiscaidd a dwy eglwys. Enwyd y basilica, sy’n cynnwys arlunwaith ffresco gan Cimabue a Giotto, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Effeithiwyd ar Assisi gan y ddaeargryn a darawodd Umbria yn 1997, a lladdwyd pedwar person oedd tu mewn i'r Basilica ar y pryd. Gwnaed difrod sylweddol, a chaewyd y Basilica i'r cyhoedd am ddwy flynedd. Ail-agorodd wedi i'r gwaith adfer gael ei orffen.