Milwr o Americanwr oedd Basil L. Plumley (1 Ionawr 1920 – 10 Hydref 2012). Roedd yn enwog am ei ran ym Mrwydr Ia Đrăng ym 1965 tra'n Uwch-Ringyll (command sergeant major) yn y Bataliwn 1af, 7fed Gatrawd Gafalri Byddin yr Unol Daleithiau yn ystod Rhyfel Fietnam. Cafodd ei ganmol gan y Cadfridog Hal Moore yn ei lyfr We Were Soldiers Once...And Young (1992). Portreadwyd Plumley gan Sam Elliott yn y ffilm We Were Soldiers (2002).[1]