Teitl sy'n rhan o Bendefigaeth y Deyrnas Unedig yw Barwniaeth Mostyn, a gychwynwyd yn 1831 ar gyfer Edward Pryce Lloyd, Barwn 1af Mostyn. Cyn hynny roedd yn cynrychioli Bwrdeistrefi Fflint a Biwmares yn y Nhŷ'r Cyffredin, fel Aelod Seneddol. Mae'r teulu Mostyn yn llawer hŷn na'r Farwniaeth (a'r barwnigaethau) a gellir eu holrhain i Thomas ap Richard (Thomas Mostyn I), a ddaeth a 5 llys at ei gilydd yn 1541.
Daeth mab Edward Pryce Lloyd, yr ail farwn, hefyd yn Aelod Seneddol Sir Fflint a Chaerlwytgoed (Lichfield) ac fel Arglwydd Raglaw Meironnydd. Yn 1831, cymerodd yr Arglwydd Mostyn yr ail gyfenw Mostyn, drwy drywdded brenhinol. Bu farw ei fab, yr Anrhydeddus Thomas Edward Lloyd-Mostyn, a gynyrchiolodd Sir Fflint yn y senedd hefyd, o'i flaen. Felly olynwyd yr Arglwydd Mostyn i'w farwnigaeth gan ei wyr, y 3ydd Barwn, yr Anrhydeddus Thomas Edward Lloyd-Mostyn. Deilir y teitlau gan ei hen-wyr, y chweched Barwn ers marwolaeth ei dad yn 2000.
Hyd 30 Mehefin 2006, nid yw deiliwr presennol wedi profi ei olyniaeth i'r farwnigaeth yn llwyddiannus, ac felly nid yw ar y Rhôl Swyddogol o'r Barwnigion.[1]
Lloyd - Barwnigion Pengwerra (1778)
Yr etifeddydd nefaf fydd unig fab y deilydd presennol, yr Anrhydeddus Gregory Philip Roger Mostyn (ganed 1984).
Gweler hefyd
Ffynonellau
- ↑ "Barwnigion heb eu profi". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-09. Cyrchwyd 2008-05-01.