Baner Cymuned Ynysoedd Erch ddaeth yn fuddugol mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer baner swyddogol newydd fis Chwefror a Mawrth 2007.[1][2] Yn ystod yr ymgynghoriad hwn gofynnwyd i bobl Ynysoedd Erch ddewis eu hoff ddyluniad oddi ar restr fer o bump a oedd wedi'u cymeradwyo gan Lys yr Arglwydd Lyon.[3] Dyluniad Duncan Tullock o Birsay oedd yn fuddugol, a gafodd 53% o 200 o bleidleisiau'r cyhoedd.[4]
Daw'r lliwiau coch a melyn o arfbeisiau Norwy a'r Alban a chynrychiola'r faner etifeddiaeth Albanaidd a Norwyaidd yr ynysoedd. Cymerwydd y lliw glas oddi ar faner yr Alban ac mae'n cynrychioli'r môr ac etifeddiaeth forwrol yr ynysoedd hefyd.
Mae'r faner newydd yn debyg i faneri Norwy (gwyn am felyn) ac Åland (y lliwiau o chwith). Tynnwyd sylw ei bod hi'n debyg i faner plaid ffasgaiddVidkun Quisling yn Norwy, Nasjonal Samling[5], ym mis Mai 2007.[6]. Er hynny, nid oedd y groes las ar y faner honno, sy'n ei gwneud yn ddigon hawdd gwahaniaethu rhwng y ddwy. Dylid hefyd sôn bod baner goch a melen yn cael ei defnyddio gan bobl yn rhanbarth Skåne Swedeg ei hiaith flynyddoedd cyn i Nasjonal Samling ddefnyddio baner â chroes goch a melen. Ceir baner â chroes goch a melen gan Ffiniaid Swedeg hefyd.