Maesgwyrdd tywyll gyda stribed fertigol gwyn yn yr hoist a seren a chilgantgwyn yn y canol yw banerPacistan. Mae'n seiliedig ar faner y Cynghrair Mwslemaidd, baner werdd (lliw Islam) tywyll gyda seren a chilgant (symbol Islam) gwyn yn ei chanol. Ychwanegwyd y stribed gwyn (i gynrychioli lleiafrifoedd y wlad) pan fabwysiadwyd fel baner genedlaethol yn sgîl Rhaniad India ac annibyniaeth ar Brydain ar 14 Awst, 1947. Yn ogystal â'r symbolaeth Islamaidd, mae gwyrdd yn cynrychioli ffyniant a gwyn yn cynrychioli heddwch, ac mae'r cilgant yn symbol o welliant a'r seren yn golygu golau a gwybodaeth.
Ffynonellau
Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Dynodir gwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol gan lythrennau italig. 1 Cydnabyddir gan Dwrci yn unig. 2 Gyda'r mwyafrif o'i thir yn Affrica. 3 Yn Ne Orllewin Asia yn gyfan gwbwl, ond ystyrir yn rhan o Ewrop am resymau hanesyddol, gwleidyddol, ac/neu diwylliannol. 4 Yn rhannol neu ddim o gwbwl yn Ewrop, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 5 Ystyrid weithiau yn rhan o Oceania. 6 Gyda lleiafrif o'i thir yn Asia. 7 Ystyrid ynysfor Socotra yn rhan o Affrica. 8 Gweinyddir gan Weriniaeth Pobl Tsieina. 9 Nid yn llwyr annibynnol.