Baner Benin
Baner Gweriniaeth Pobl Benin (1975–1990)
Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch melyn a stribed is coch gyda stribed fertigol gwyrdd yn yr hoist yw baner Benin . Lliwiau pan-Affricanaidd yw coch, melyn, a gwyrdd, ac maent yn symboleiddio undod a chenedlaetholdeb Affricanaidd . Mabwysiadwyd yn gyntaf ar 16 Tachwedd , 1959 , yn ystod y cyfnod rhwng ennill ymreolaeth yn 1958 ac ennill annibyniaeth lwyr ar Ffrainc yn 1960 ; enw'r wlad ar y pryd oedd Gweriniaeth Dahomey . Yn dilyn chwyldro sosialaidd yn Rhagfyr 1975 , newidodd enw'r wlad i Weriniaeth Pobl Benin a chafodd faner werdd gyda seren goch yn y canton ei defnyddio. Dechreuodd drawsnewidiad i ddemocratiaeth yn y 1980au hwyr a 1990au cynnar: newidiwyd enw'r wlad i Weriniaeth Benin a chafodd y faner wreiddiol ei hadfer yn 1990 .
Seiliwyd lliwiau'r faner ar liwiau baner Ethiopia a ddaeth yn liwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd dros fudiadau annibyniaeth i bobloedd ddu y cyfandir, a thu hwnt.
Ffynonellau
Complete Flags of the World , Dorling Kindersley (2002)