Talaith yng ngogledd-ddwyrain Awstria yw Awstria Isaf (Almaeneg: Niederösterreich). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,545,804, yr ail-fwyaf ymhlith taleithiau Awstria. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw St. Pölten, gyda phoblogaeth o 49,121.
Hyd 1918, roedd yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Awstria dan yr enw Österreich unter der Enns. O 1938 hyd 1945, Niederdonau oedd ei henw. Rhennir y dalaith yn bedair tiriogaeth hanesyddol, y Weinviertel yn y gogledd-ddwyrain, y Waldviertel yn y gogledd-orllewin, y Mostviertel yn y de-orllewin a'r Industrieviertel yn y de-ddwyrain.
Rhennir y dalaith yn bedair dinas annibynnol (Statutarstädte) a 21 ardal (Bezirke).