Asid gwan ydy asid borig; a adnabyddir hefyd fel asid borasic neu asid orthoboric Yn aml, fe gaiff ei ddefnyddio fel gwrthseptig, pryfleiddiad, hylif gwrth-dân, mewn atomfaniwclear i reoli'r wraniwm. Mae'n hydoddi mewn dŵr, a gall fodoli ar ffurf grisialau di-liw neu bowdwr gwyn. Ei fformiwla cemegol ydy: H3BO3. Weithiau, caiff ei ysgrifennu fel hyn: B(OH)3.