Dosbarth pwysig o fetabolitau (sef molecylau prosesau celloedd byw) yw’r asidau amino. Maent yn gyfansoddion carbon sy'n cynnwys dau grŵp gweithredol; grŵp amin a grŵp asid carbocsylig ynghyd â grŵp ychwanegol sy’n nodwedd i’r asidau amino unigol. Nodwedd o bob math o fywyd ar y ddaear ydynt. Mae iddynt bwysigrwydd fel molecylau unigol a hefyd mewn polymerau. Eu polymerau mwyaf nodweddiadol yw proteinau. Gall y cadwynau hyn cynnwys degau o filoedd o asidau amino unigol (ee 27,000 i Titin [1]), ond ychydig gannoedd sy’n arferol. O’r cannoedd o asiadu amino naturiol sy’n bodoli, tua 20 sy’n cysylltu â'i gilydd i ffurfio proteinau. Ym mhob un o’r rhain mae’r grŵp amin a’r grŵp asid carbocsylig wedi’u cysylltu’n uniongyrchol a charbon α y gadwyn garbon. (Sef rhif 2 - gan mai atom carbon yr asid carbocsylig yw rhif 1.) Felly ei gelwir yn asidau amino α.
Mae asidau amino yn cynnwys y grwpiau gweithredol basig NH2 (amin) a'r grŵp asidig COOH (asid carbocsylig) ac felly maent yn ymddwyn yn amffoterig (fel asidau a basau).
Peptidau
Mae proteinau yn hanfodol ar gyfer bywyd a phroteinau yw prif gynhwysion gwallt, croen, cyrn, cyhyr, haemoglobin, ensymau, firysau, gwaed, a nifer o organebau eraill. Cyfansoddion a ffurfir gan gadwyni o asidau amino yw peptidau- sy'n gysylltiedig trwy'r bond peptid.