Ceir sawl ystyr i'r gair arwr (benywaidd: arwres). Daw'r gair Cymraeg o'r rhagddodiadar-, sy'n cryfhau'r ystyr, a'r enwgŵr 'rhyfelwr'; 'gwron' neu 'rhyfelwr dewr' yw prif ystyr y gair mewn Cymraeg Canol. Yn nhermau mytholeg, gan darddu o'r defnydd o'r gair hero ym mytholeg y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, mae arwr yn gymeriad dwyfol neu led-ddwyfol wedi ei ddonio â nerth neu ddawn anghyffredin; Heracles (Ercwlff) oedd un o'r enwocaf o arwyr y byd Clasurol. Yn fwy cyffredinol, datblygodd y gair i olygu unrhyw un sy'n ddewr neu sy'n barod i aberthu ei hun er mwyn eraill. Gall olygu prif gymeriad cerdd neu nofel yn ogystal. Erbyn heddiw mae'r defnydd o'r gair wedi dirywio cymaint fel bod pobl fel pêl-droedwyr sy'n achub gêm yn cael eu disgrifio fel "arwyr".