Meddyg, llywodraethwr a phedwerydd Arlywydd Gweriniaeth Texas (1844-1846) (a'r olaf hefyd) oedd Anson Jones (20 Ionawr 1798 – 9 Ionawr 1858).
Ganwyd Jones ar 20 Ionawr 1798, yn Great Barrington, Massachusetts. Cafodd drwydded gyda Chymdeithas Feddygol Oeneida, Efrog Newydd ym 1820 a dechreuodd ymarfer yn Bainbridge. Aeth Jones i Texas Mecsicanaidd yn Hydref 1833 a chafodd ei ethol fel Arylwydd Gweriniaeth Texas ym Medi 1844. Cyflawnodd hunanladdiad yn yr Hotel Capitol, Houston.
Dolenni allanol
- (Saesneg) "JONES, ANSON," Herbert Gambrell, Handbook of Texas Online; Texas State Historical Association.