Actores Seisnig oedd Anne Kirkbride (21 Mehefin1954 – 19 Ionawr2015), yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Deirdre Barlow yn y ddrama sebon Coronation Street ar ITV, gan bortreadu'r cymeriad am 42 blwyddyn rhwng 1972 a 2014. Ar ôl ei marwolaeth derbyniodd Wobr Cyflawniad Rhagorol am ei gwaith yng Ngwobrau Sebon Prydeinig 2015.