Mae Annapurna (Sansgrit, Nepaleg, Nepal Bhasa: अन्नपूर्ण) yn gyfres o gopaon yn yr Himalaya yn Nepal, sy'n ffurfio cadwyn 55 km o hyd. Y copa uchaf yw Annapurna I, sy'n 8,091 m (26,538 troedfedd), y 10fed copa yn y byd o ran uchder., ac yn un o'r 14 copa yn y byd dros 8,000 medr. Saif i'r dwyrain o ddyffryn Kali Gandaki, sy'n ei wahanu oddi wrth Dhaulagiri. Enw Sansgrit yw Annapurna, a'i ystyr yw "Duwies y Cynhaeaf".
Annapurna I oedd y cyntaf o'r copaon dros 8,000 medr i gael ei ddringo, gan Maurice Herzog a Louis Lachenal, aelodau o dîm o Ffrainc, a gyrhaeddodd y copa ar 3 Mehefin 1950. Ystyrir copaon Annapurna ymhlith y mynyddoedd peryclaf yn y byd i'w dringo. Hyd at 2005, dim ond 103 oedd wedi cyrraedd y copa, a 56 wedi eu lladd yn yr ymgais.