Anna Deavere Smith |
---|
|
Ganwyd | 18 Medi 1950 Baltimore |
---|
Man preswyl | Baltimore |
---|
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
---|
Alma mater | - Prifysgol Arcadia, Pennsylvania
- Western High School
|
---|
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, llenor, dramodydd, actor, sgriptiwr, academydd, academydd |
---|
Cyflogwr | - Prifysgol Carnegie Mellon
- Ysgol Gelf Tisch, UDA
|
---|
Gwobr/au | Medal y Dyniaethau Cenedlaethol, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol, Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol, Cymrodoriaeth MacArthur, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Washington D.C. am yr Actores Gefnogol Orau, Darlith Jefferson, Gwobr George Polk, Phyllis Franklin Award, Cymrodoriaeth Guggenheim, honorary doctor of the Yale University, Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman, Global Citizen Awards, Lucille Lortel Award for Outstanding Lead Actress, star on Playwrights' Sidewalk |
---|
Actores Americanaidd yw Anna Deavere Smith (ganwyd 18 Medi 1950) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd. Hi oedd yn actio Dr. Nancy McNally yn y ffilm The West Wing (2000–06), ac fel Gloria Akalitus yn y gyfres deledu Nurse Jackie (2009–15). Yn 2019 mae'n chwarae rol Tina Krissman yn y sioe For the People (ABC).
Fe'i ganed yn Baltimore, Maryland ar 18 Medi 1950. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Arcadia, Pennsylvania a Western High School.[1][2][3][4]
Yn 2013 enillodd Wobr Dorothy a Lillian Gish, un o brif wobrau celf yn yr Unol Daleithiau America, gwerth $300,000.
Yn 2015 cafodd ei dewis fel 'Darlithydd Jefferson' gan Waddol Cenedlaethol ar gyfer y Celfyddydau (National Endowment for the Arts). Hi yw cyfarwyddwr a sefydlydd Institute on the Arts and Civic Dialogue ym Mhrifysgol Efrog Newydd.
[5][6][7][8]
Magwraeth
Ganwyd Smith ym 1950 i deulu Affricanaidd-Americanaidd yn Baltimore, Maryland, yn ferch i Anna Rosalind (née Young), prifathro ysgol elfennol, a Deaver Young Smith, Jr, masnachwr coffi.
Dechreuodd fynychu'r ysgol yn fuan ar ôl i'r ddinas ddechrau integreiddio disgyblion du a gwyn o fewn ysgolion cyhoeddus, a mynychodd Anna ysgolion mwyafrif-du a mwyafrif-gwyn yn ystod ei blynyddoedd cyntaf. Mae hi'n gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd y Gorllewin, ysgol i ferched.[9][10]
Astudiodd actio yng Ngholeg Beaver (Prifysgol Arcadia erbyn hyn), lle'r oedd yn un o saith o fenywod Affricanaidd-Americanaidd yn ei dosbarth, gan raddio yn 1971. Yn ystod ei gyrfa yn y coleg, dechreuon nhw gydadnabod eu bod yn Affricanaidd. Aeth i Arfordir Gorllewinol UDA ar gyfer ei gwaith graddedig, gan dderbyn M.F.A. mewn actio gan Theatr Geidwadol Americanaidd yn San Francisco, California.[11]
Ffilm
Blwyddyn
|
Teitl
|
Rôl
|
Notes
|
1982
|
Soup for One
|
Deborah
|
|
1983
|
Touched
|
Switch Board Operator
|
|
1987
|
Unfinished Business
|
Anna
|
|
1993
|
Dave
|
Mrs. Travis
|
|
1993
|
Philadelphia
|
Anthea Burton
|
|
1995
|
The American President
|
Robin McCall
|
|
2000
|
Twilight: Los Angeles, 1992
|
Various
|
Awdur a chynhyrchydd; addasiad o ddrama Smith yn 1994
|
2003
|
The Human Stain
|
Mrs. Silk
|
|
2004
|
The Manchurian Candidate
|
Political pundit
|
|
2005
|
Cry_Wolf
|
Headmaster Tinsley
|
|
2005
|
Rent
|
Mrs. Jefferson
|
|
2007
|
The Kingdom
|
Maricella Canavesio
|
|
2007
|
Life Support
|
Mrs. Wallace
|
|
2008
|
Rachel Getting Married
|
Carol
|
|
2010
|
Seizing Justice: The Greensboro 4
|
Llais
|
|
2018
|
Can You Ever Forgive Me?
|
Elaine
|
|
Anrhydeddau
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Dyniaethau Cenedlaethol (2012), Gwobr y 'Theatre World' (1994), Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol (1993), Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol (1994), Cymrodoriaeth MacArthur (1996), Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Washington D.C. am yr Actores Gefnogol Orau (2003), Darlith Jefferson (2015), Gwobr George Polk (2016), Phyllis Franklin Award (2016), Cymrodoriaeth Guggenheim (2016), honorary doctor of the Yale University (2014), Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman (2012), Global Citizen Awards (2019), Lucille Lortel Award for Outstanding Lead Actress (1993), star on Playwrights' Sidewalk[12][13][14][15][16][17][18][19][20][21] .
Cyfeiriadau