Fe'i magwyd yn Aberystwyth yn fab i'r darlithydd Cymraeg Tedi Millward a Silvia Hart. Ei chwaer yw'r gantores Llio Millward. Roedd yn byw ym Mryste ac yn gweithio yn y maes technoleg gwybodaeth. Roedd e hefyd yn hyfforddwr ar gyfer crefft ymladd Wing Chun.[3]
Bu farw yn Hydref 2016 yn 50 oed. Roedd ganddo ddwy ferch. Dywedodd yr awdures Elin Llwyd Morgan ei fod yn "berson addfwyn iawn, ac roedd ganddo hiwmor tawel" a fod "ei gyfraniad yn un pwysig achos roedd o’n ysgrifennu mewn genre sy’n eithaf anodd yn y Gymraeg".