Amy Dowden

Amy Dowden
Ganwyd10 Awst 1991 Edit this on Wikidata
Caerffili Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdawnsiwr Edit this on Wikidata

Mae Amy Dowden MBE (ganwyd 10 Awst 1990) yn ddawnswraig neuadd broffesiynol o Gymru sy'n dod o Gaerffili. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei hymddangosiadau ar raglen deledu Strictly Come Dancing ar BBC One. Ymunodd Dowden â’r gyfres yn 2017, ac yn 2019, cyrhaeddodd rownd derfynol yr ail gyfres ar bymtheg gyda’r cyflwynydd teledu Karim Zeroual. Mae Dowden a’i phartner Ben Jones yn gyn Bencampwyr Dawns Ladin Cenedlaethol Prydain. Mae ganddi Record Byd Guinness am y nifer fwyaf o gamau cefn - Charleston mewn 30 eiliad (2022). Mae ganddi efaill a brawd hŷn.[1]

Cyfeiriadau

  1. "Syr Alan Bates a gweddill Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin". Newyddion S4C. Cyrchwyd 15 Mehefin 2024.