Amgueddfa yn ninas Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, yw'r Amgueddfa Reilffordd Genedlaethol. Mae’n gartref i gerbydau rheilffordd bwysig o Brydain a gweddill y byd a llwyth o bethau eraill gyda chysylltiad i’r maes. Mae'n aelod o Grŵp yr Amgueddfa Wyddoniaeth.
Arddangosir dros 6,000 o gerbydau a phethau eraill.[1] gan gynnwys dros 100 o locomotifau a cherbydau eraill. Denodd yr amgueddfa 782,000 o ymwelwyr yn ystod 2018/9. [2]
Dechreuodd datblygiad newydd i’r safle yn 2019.[3] Ail-leolir Ffordd Leeman, ac adeiladir mynedfa newydd i’r amgueddfa, yn dod y dau rhan yr amgueddfa at ei gilydd.[4]
Sefydlwyd yr amgueddfa ar ei safle presennol, lle oedd depo locomotifau Gogledd Efrog ym 1975 gyda hen gasgliad Rheilffordd Brydeinig yn Clapham a chasgliad Amgueddfa Rheilffordd Efrog ar Heol Queen.[5] Mae mynediad am ddim i'r amgueddfa ers 2001 ac mae'n agor yn ddyddiol.
Mae hefyd Amgueddfa Rheilffordd Genedlaethol Shildon ers Hydref 2004 , yn gweithredu ar y cyd gyda Cyngor Sir Durham.[6], in defnyddio hen weithdy Timothy Hackworth ac adeilad newydd.
Oriel
-
Locomotifau dosbarth A4
-
Evening Star
-
Y neuadd fawr (1981)
-
-
Cerflun o
George Stephenson yn y neuadd fawr
Cyfeiriadau
Dolenni allanol