Cerddor a chyfansoddwr rhai o'r caneuon pop mwyaf adnabyddus a phoblogaidd yn y Gymraeg oedd Alun 'Sbardun' Huws (26 Medi 1948 – 15 Rhagfyr 2014).[1] Yn wreiddol o Benrhyndeudraeth, treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yng Nghaerdydd a'r Barri. Roedd yn aelod gwreiddiol o'r Tebot Piws a ffurfiwyd yn 1968[2] ac yn aelod achlysurol o Ac Eraill, Edward H Dafis a Mynediad am Ddim.[3] Roedd yn un o'r tîm a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad gwreiddiol o'r opera roc Nia Ben Aur. Bu'n gyfarwyddwr teledu gydag adran newyddion y BBC, yn ogystal â nifer o swyddi eraill am fwy na degawd cyn ymddeol.
Bywgraffiad
Athrawes oedd ei fam a gweithiwr yn y ffatri gwneud ffrwydron Cookes Explosives Ltd oedd ei dad. Cychwynodd e a'i frawd grŵp sgiffl o'r enw Y Rebels ym Mhenrhyndeudraeth cyn mynd i astudio Celf yng Nghaerdydd. Roedd ganddo frawd iau: John Wyn Hughes.
Bu Alun yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Penrhyndeudraeth (1953 i 1959) ac yna yn Ysgol Ardudwy, Harlech o 1959 i 1967. Wedi gadael yr ysgol symudodd i Gaerdydd i astudio yng Ngholeg Celf Caerdydd (1967-8), cyn mynd i Goleg Addysg Cyncoed am dair blynedd i hyfforddi fel athro. Wedi gadael y coleg gweithiodd fel ymchwilydd, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu i gwmni HTV ac yna'r BBC.
Ar 29 Mai 1978 priododd Gwenno Peris Jones.
Y Tebot Piws
Sefydlwyd y Tebot Piws yn 1968, ac wedi iddynt ennill cystadleuaeth dalent yn y Fflint cafwyd perfformiad ar y rhaglen deledu Disc a Dawn (BBC). Roedd yr aelodaeth wreiddiol yn cynnwys Alun Huws, y lleisydd 'Stan' Morgan Jones ac Emyr Huws Jones ar y gitâr a'r mandolin. Yn ddiweddarach ymunodd y gitarydd a'r lleisydd cellweirus Dewi Pws.
Recordiwyd eu record gyntaf mewn tŷ yn Wallasey, Lerpwl, a hynny mewn un bore - gyda bachgen lleol ar y drymiau ac un arall ar y bâs dwbl. Sbardun gyfansoddodd y gân agoriadol: 'Yr Hogyn Pren', ar y cyd gydag Emyr Huws Jones. Yn 2002 daeth y Tebot yn ôl at ei gilydd mewn aduniad yng Ngŵyl y Faenol.
Yn 2008 ryddhawyd albwm Twll Du Ifan Saer gyda Sbardun yn chwarae'r iwcalili, yr organ geg a'r gitâr.
Cyfeiriadau