Aled Gwyn
Gweinidog, newyddiadurwr, cyfieithydd a phrifardd yw'r Parchedig Aled Gwyn (20 Awst 1940). Bywyd cynnarGaned D Aled Gwyn Jones yng Nghastell Newydd Emlyn, Ceredigion, yr ifancaf o Fois Parc Nest. Fe'i magwyd ar y fferm gan ei rieni Gwenni (Gwendolen) a Gwyn Jones.[1] Hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yn Aberystwyth ac Abertawe a graddiodd yn 1963. GyrfaCychwynnodd fel gweinidog ifanc yn Eglwys Henllan Amgoed ym mis Medi 1966. Gwasanaethodd hefyd fel cynghorydd sir dros Blaid Cymru. Symudodd i Gapel Soar Maesyrhaf, Castell-nedd yn 1976.[2] Aeth ymlaen i ddod yn newyddiadurwr gyda BBC Radio Cymru. Cafodd ei goroni yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergele 1995 gan ei frawd John Gwilym Jones a oedd yn Archdderwydd ar y pryd.[3] Ysbrydolwyd ei gerdd "Melodiau" gan y brofedigaeth o golli ei wyres, Gwennan.[4] Bywyd personolRoedd yn briod â'r ddarlledwraig Menna Gwyn (1941–2006) hyd ei marwolaeth. Mae ganddynt ddau o blant, Non a Rolant.[5] Cyfeiriadau
Information related to Aled Gwyn |