Hirddydd Haf neu Alban Hefin yw'r cyfnod rhwng y 20ed a'r 21ain o fis Mehefin, sef dydd hiraf y flwyddyn. Dyma un o'r gwyliau pwysicaf yng nghalendr y Celtiaid a sawl diwylliant arall o gwmpas y byd.
Iolo Morganwg a fathodd y gair 'alban' (a'r term 'Alban Hefin') ar ddiwedd y 18g i ddynodi un o'r pedwar chwarter mewn blwyddyn. Yr enw Cymraeg Canol am yr ŵyl oedd Calan Ieuan Fedyddiwr (24 Mehefin): fel yn achos gŵyl y Nadolig, symudwyd yr hen ŵyl Geltaidd rai dyddiau gan yr eglwys er mwyn ei Christioneiddio.
Mae'r dyddiad yn cyd-fynd â dathliadau Gŵyl Ifan a nodwyd geni Ioan Fedyddiwr ond a unodd traddodiadau cyn-Gristnogol i'r ŵyl.