Ailfedyddiaeth

Mudiad Cristnogol a darddai o'r Diwygiad Radicalaidd yn Ewrop yn yr 16g yw Ailfedyddiaeth sy'n arddel athrawiaeth ailfedydd, hynny yw bedyddio oedolion sy'n datgan eu ffydd yn hytrach na bedyddio babanod. Gan amlaf disgrifir yr enwad yn ffurf ar Brotestaniaeth, ond ni derbynir hyn gan bob Ailfedyddiwr.[1][2][3] Mae sawl grŵp sy'n olrhain eu llinach i Ailfedyddwyr yr 16g wedi goroesi, gan gynnwys yr Amisch, yr Hutteriaid, a'r Mennoniaid. Datblygodd y Bedyddwyr Almaenaidd, y Bruderhof, a'r Eglwys Apostolaidd Gristnogol yn ddiweddarach. Ymhlith yr enwadau modern eraill a flagurai o Ailfedyddiaeth mae'r Bedyddwyr a'r Crynwyr.

Seiliodd yr Ailfedyddwyr cynnar eu hathrawiaeth ar ddysgeidiaeth Huldrych Zwingli, a ddadleuodd nad oedd plant i'w cosbi am bechod nes iddynt ddysgu'r wahaniaeth rhwng da a drwg a chaffael ewyllys rydd a'r gallu i edifarhau. Cyflwynant eu hunain i dderbyn bedydd credinwr fel oedolion ac i gyhoeddi eu ffydd. Yn y cyfnod hwn, roedd ailfedyddio yn drosedd a dderbynai'r gosb eithaf.[4] Cafodd yr Ailfedyddwyr eu herlid droeon yn yr 16g a'r 17g gan Brotestaniaid a Phabyddion fel ei gilydd, yn bennaf oherwydd dehongliadau'r enwad o'r ysgrythur a oedd yn groes i ddysgeidiaeth swyddogol yr eglwys a'r wladwriaeth. Dehonglai'r bregeth ar y mynydd yn llythrennol gan y mwyafrif o Ailfedyddwyr ac felly gwrthodant tyngu llwon, ymuno â'r fyddin, a gwasanaethu yn y llywodraeth wladol.

Nid oedd "Ailfedyddwyr" yn enw arddeledig gan un dosbarth nac enwad yn hanesyddol. Enw ydoedd a roddwyd gan eu gwrthwynebwyr. Gwrthodai'r enw oherwydd roeddynt yn ystyried bedydd y baban yn gabledd. Nad oeddynt, yn ôl eu barn eu hunain, ond yn gweinyddu y bedydd Cristnogol yn gywir am y tro cyntaf.

Cyfeiriadau

  1. Klaassen, Walter (1973), Anabaptism: Neither Catholic Nor Protestant, Waterloo, ON: Conrad Press.
  2. McGrath, William (PDF), The Anabaptists: Neither Catholic nor Protestant, Hartville, OH: The Fellowship Messenger, http://www.cbc4me.org/articles/Baptist/04-McGrath.pdf
  3. Gilbert, William (1998), "The Radicals of the Reformation", Renaissance and Reformation, Lawrence, KS: University of Kansas, http://vlib.iue.it/carrie/texts/carrie_books/gilbert/15.html
  4. (Saesneg) Anabaptist. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Mai 2017.