Ail farn

Ail farn
MathBarn, alternative Edit this on Wikidata

Ym meddygaeth, ymweliad ag arbenigwr iechyd sy'n wahanol i'r un mae'r claf wedi ymweld â yn barod yw ail farn neu farn arall. Gall glaf ofyn am ail farn os nad yw'n fodlon ar y cyngor a gaiff neu'r driniaeth a gynigiwyd iddo gan ei feddyg teulu, ymgynghorydd, neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.[1]

Manteision

Gallai ail farn egluro'r diagnosis gwreiddiol a'r cwrs o driniaeth a awgrymwyd. Yn aml bydd cytundeb rhwng dau arbenigwr yn tawelu meddwl claf, ac yn cynyddu hyder yn ei feddyg teulu, ymgynghorydd, neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, yn ogystal â rhoi mwy o ddewis ynghylch pwy fydd yn gwneud y driniaeth a argymhellwyd. Gallai pethau eraill fel lleoliad daearyddol, amseroedd aros, neu argymhelliad personol effeithio ar benderfyniad y claf hefyd.[2]

Hyd yn oed os bydd y ddwy farn yn wahanol, bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i'r claf, yn ogystal â rhoi adborth i'r arbenigwr a rodd y farn wreiddiol am y diagnosis a'r cyfle i ystyried gwahanol driniaethau.[2]

Anfanteision

Mae anfanteision gofyn am ail farn yn cynnwys y posibilrwydd o angen mynd i wahanol ysbyty nag y mae'r claf wedi ymweld â'i yn barod, a allai olygu teithio'n gymharol bell, ac efallai y bydd yn rhaid aros am amser hir i'w chael.[3] Yn y DU mae'n rhaid i'r claf hefyd bod yn ymwybodol na fydd gan yr ail farn flaenoriaeth dros y farn gyntaf,[3] ac yn UDA mae'n bosib bydd angen i'r claf dalu am ail farn.[4]

Yn ôl gwlad

Y Deyrnas Unedig

Yn y Deyrnas Unedig dim ond drwy atgyfeiriad gan feddyg teulu y gellir cael ail farn. Er nad oes unrhyw hawl gyfreithiol i ail farn, anaml y mae meddygon teulu yn ei gwrthod, oni bai bod rheswm digonol ac nad ydynt yn credu ei bod yn angenrheidiol. Dywed Arfer Meddygol Da i Feddygon Teulu Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu (2002):

Yn gyffredinol, dylech chi [y meddyg teulu] barchu cais y claf am atgyfeiriad am ail farn, ond gallai fod amgylchiadau lle byddwch yn barnu na fyddai atgyfeiriad er lles y claf.[1]

Yn y DU os penderfyna'r claf y driniaeth a argymhellwyd gan yr ail arbenigwr mae'n rhaid gael atgyfeiriad ffurfiol gan y sawl a roddodd y farn wreiddiol.[2]

Unol Daleithiau America

Yn Unol Daleithiau America penderfyniad y claf yw cael ail farn, ond mae'n bosib y bydd angen i glaf dalu amdano ei hunan os nad yw ei gynllun yswiriant iechyd yn ei sicrháu.[4]

Mae Cymdeithas Feddygol America (AMA) yn awgrymu ei fod yn addas i glaf geisio am ail farn o dan un neu fwy o'r amgylchiadau canlynol:

  • mae'r meddyg gwreiddiol yn argymell ail farn gan fod cyflwr y claf y tu fas i'w faes arbenigedd
  • mae'r meddyg gwreiddiol yn argymell llawdriniaeth etholedig, lle mae'n bosib bod angen ail farn ar gyfer cynllun yswiriant iechyd y claf os nad yw'n argyfwng
  • nid yw'r meddyg gwreiddiol eto wedi gwneud diagnosis neu nid yw'r diagnosis yn bendant
  • mae cyflwr y claf yn anghyffredin iawn neu'n ddifrifol iawn
  • teimla'r claf nad ydy wedi derbyn y wybodaeth sydd angen arno gan ei feddyg.[4]

Ymchwil i effeithiau ail farnau ar raddfa eang

Cynhalodd y cylchgrawn meddygol The Lancet arbrawf i ddarganfod os oes gan ail farn orfodol effaith ar y gyfradd o doriadau Cesaraidd yn America Ladin, gyda 34 o ysbytai yn yr Ariannin, Brasil, Ciwba, Gwatemala, a Mecsico yn llwyddo i gyflawni'r protocol ar gyfer y treial, gyda gostyngiad cymharol o 7.3% yn y gyfradd o doriadau Cesaraidd allan o 149 276 o esgoriadau. Cyhoeddwyd y canlyniadau yn 2004 a dehonglwyd gall 22 o doriadau Cesaraidd dianghenraid o bob 1000 o esgoriadau gael eu hatal gan ail farn heb effeithio ar forbidrwydd mamol nac amenedigol nac ychwaith effeithio ar fodlonrwydd mamau â'r broses ofal.[5]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1  Ail farn: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2  Ail farn: Manteision. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  3. 3.0 3.1  Ail farn: Anfanteision. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  4. 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) Getting a second opinion. Cymdeithas Feddygol America (AMA) (Ebrill 2009). Adalwyd ar 5 Hydref, 2009.
  5. Fernando Althabe, José M Belizán, José Villar, et al. (12 Mehefin 2004). Mandatory second opinion to reduce rates of unnecessary caesarean sections in Latin America: a cluster randomised controlled trial, Cyfrol 363, Rhifyn 9425 (yn Saesneg). The Lancet. DOI:10.1016/S0140-6736(04)16406-4URL